Ymestyn Allan at y Gymuned
Dysgu oddi wrth natur
Mae'r Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl, Ben Stammers, yn dychwelyd i rai o'i hoff lecynnau pan yn blentyn i ddangos bywyd gwyllt bendigedig i blant ysgol lleol.
Yn ceisio gweithio gydag ysgolion lleol a chymunedau, mae'r Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl, Ben Stammers, yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau addysgol i greu mwy o ymwybyddiaeth o'r safleoedd a'u gwerth o ran bywyd gwyllt a chadwraeth. Ariennir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Elusennol Laing a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y prosiect newydd hwn," meddai Ben, "ac rwy'n gobeithio rhannu fy mrwdfrydedd gydag amrywiaeth mor eang ag y bo modd o bobl. Mae gwarchodfeydd fel Cors Goch a Spinnies, Aber Ogwen, yn perthyn i ni i gyd. Drwy dreulio amser ar y safle, yn gwylio ac yn darganfod gwahanol greaduriaid a sut maent yn goroesi, gall pobl greu perthynas gyda lle a theimlo cyswllt gwirioneddol gyda'r amgylchedd lleol."
"Rwy'n cofio cyffroi drwyddaf, pan yn blentyn, wrth weld glas y dorlan am y tro cyntaf yn Aber Ogwen, a gobeithio bydd yr ymweliadau gan ysgolion yr ydym yn eu trefnu'n darparu atgofion tebyg i blant heddiw, i danio eu dychymyg a gwneud iddynt deimlo eu bod yn darganfod rhywbeth pwysig iawn. Gobeithio hefyd y bydd yn ysbrydoli ambell un i chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth."

