Prosiectau

Rydym yn chwilio am gymorth bob amser gyda'n hamrywiaeth eang o brosiectau ledled Gogledd Cymru.


Cadwraeth Cynefinoedd

Gofalu am ein gwarchodfeydd natur yw un o'r ffyrdd allweddol a ddefnyddir gennym i warchod bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.
Mae ein Prosiect 'Safleoedd Bywyd Gwyllt' yn ceisio gwarchod yr ardaloedd bychain sy'n enwog am eu pwysigrwydd lleol i fywyd gwyllt. Mae gennym raglen barhaus o adnabod cynefinoedd a rhywogaethau pwysig yn lleol ac rydym yn cydweithio gyda pherchnogion tir i'w gwarchod.
Beth am wybod mwy am sut rydym ni ac Ymddiriedolaethau eraill Cymru'n adfywio'r cynefinoedd o dir ffermio är, cynefin sydd wedi diflannu'n llwyr bron gyda dyfodiad pla a chwynladdwyr amaethyddol. Rydym yn gweithio'n galed er mwyn denu'r ehedydd, y gornchwiglen a phabi'r gwenith yn ôl.

Adfer Cynefinoedd

Gwybodaeth ddiddorol am sut mae hen waith ffrwydron wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt Gogledd Cymru. Ewch am dro i dudalen prosiect Gwaith Powdwr sydd wedi'i ariannu gan LIFE.

Cadwraeth Rhywogaethau

Mae 'Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DG' yn cynnwys mwy na 1,200 o rywogaethau sy'n peri pryder cadwriaethol. O blith y rhain, mae 577 dan ddigon o fygythiad i gael eu hystyried fel 'rhywogaethau blaenoriaeth'. Mae gan YBNGC rôl arweiniol yn y DG mewn perthynas ä Rhawn yr Ebol Lleiaf a rôl allweddol yng nghadwraeth yr Ele Feddyginiaethol a Mursen y De. Rydym yn ymwneud ä chadwraeth y dyfrgi, y llygoden ddŵr, y wiwer goch, llamhidydd yr harbwr, yr heulforgi, y llyffant cyffredin, glöyn byw brith y gors a chlychau'r gog. Mae gennym ddiddordeb arbennig hefyd yn y 28 o rywogaethau targed BAP sydd i'w gweld yn y gwarchodfeydd natur.
Rydym wedi datblygu Posiect Mamaliaid Coetir Prin Clwyd i fod o fudd i'r pathew, i gorystlumod ac i wiwerod cochion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Cofnodi

Rydym yn cynnal arolygon ar fywyd gwyllt ac yn chwilio bob amser am bobl sy'n fodlon helpu.
Rydym wedi arwain y gwaith o sefydlu Canolfan Gofnodi Leol yng Ngogledd Cymru - Cofnod oherwydd rydym yn credu bod canolfan o'r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau bod data gwyddonol cadarn yn sail i benderfyniadau sy'n effeithio ar gefn gwlad Gogledd Cymru. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu eich cofnodion am fywyd gwyllt.

Cyngor

Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol i warchod eu cysgodfannau i fywyd gwyllt, gan ddarparu cyngor ynghylch y ffordd orau o weithio a'r ffynonellau cyllido posibl.