Ein gweledigaeth yw Gogledd Cymru gyda chyfoeth o fywyd gwyllt a fwynheir gan bawb.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn un o blith 47 o Ymddiriedolaethau Natur ledled y DG ac yn un o blith 6 Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru.
Rydym yn elusen gofrestredig, sy'n dibynnu ar roddion ac ar gefnogaeth ein haelodau.
Gyda'ch cymorth chi, rydym yn credu y gallwn wneud llawer i warchod y bywyd gwyllt sydd ar ôl ac i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt Gogledd Cymru.

Amcanion Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Gwarchod bywyd gwyllt Gogledd Cymru ar gyfer y dyfodol.
- Cynyddu'r ddealltwriaeth o fywyd gwyllt Gogledd Cymru a'i amgylchedd naturiol.
- Defnyddio'r wybodaeth hon wrth warchod bywyd gwyllt yn ymarferol yn ein gwarchodfeydd natur ac mewn mannau eraill ledled Gogledd Cymru.
- Sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i fwynhau bywyd gwyllt Gogledd Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn:
- buddsoddi yn y dyfodol drwy helpu pobl o bob oed i werthfawrogi a deall bywyd gwyllt yn well
- prynu a rheoli gwarchodfeydd natur
- ymgymryd â phrosiectau sydd o fudd i fywyd gwyllt mewn trefi ac yng nghefn gwlad
- herio datblygiadau sy'n bygwth cynefinoedd bywyd gwyllt
- gweithio gyda'r cyhoedd, cymunedau, perchnogion tir, cynghorau lleol ac eraill i warchod bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.