Dysgu a Darganfod
Annog pawb i 'fyw'n ysgafnach' ar y ddaear.

Mae Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru'n cynnig cyfleoedd lleol i chi ddysgu mwy am y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.

Mae croeso i deuluoedd ymuno â ni ar amrywiaeth eang o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn i fwynhau byd natur. Edrychwch yn ein tudalen Digwyddiadau i gael gwybod beth sy'n digwydd yn agos atoch chi.

Gwylio Bywyd Gwyllt Wildlife Watch yw'r clwb ar gyfer y rhai iau yn ein mysg sy'n hoff iawn o anifeiliaid a byd natur - cadwriaethwyr y dyfodol. Mae Gwylio Bywyd Gwyllt yn ffordd gyffrous o archwilio eich amgylchedd a mynd yn nes at y bywyd gwyllt rydych yn ei rannu gyda hwy.

Rydym yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion i ddarparu cyfleoedd i blant fynd allan i'n gwarchodfeydd natur. Mae'r ystafelloedd dosbarth naturiol hyn yn darparu cyfleoedd niferus ar gyfer bodloni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Anelir yr Wybodaeth i Athrawon a'r Grid Awgrymiadau ar gyfer Astudiaethau a Gweithgareddau at Gyfnod Allweddol 2 yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Er eu bod yn darparu gwybodaeth fanwl am warchodfa natur, mae'r wybodaeth yn berthnasol yn fras i unrhyw safle gyda chynefin tebyg. Maent yn cyflwyno digon o wybodaeth i athrawon ymweld â'r warchodfa ac maent yn darparu sawl gweithgaredd trawsgwricwlaidd ar gyfer y plant. Maent yn cynnwys gwybodaeth am yr amser gorau i ymweld a beth allwch chi ddisgwyl ei weld. Maent yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gwybodaeth i Athrawon

Os am fynd am dro i gorsydd, pyllau neu rostir, fe allech ymweld â:
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Goch , ger Benllech, Ynys Môn.
Nodiadau i Athrawon Cymraeg - Saesneg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa

Os am fynd am dro i ddolydd a gwrychoedd, gallech ymweld â:
Gwarchodfa Natur Caeau Pen y Clip, ger Porthaethwy, Ynys Môn.
Nodiadau i Athrawon Cymraeg - Saesneg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa

Os am fynd am dro i draethau arfordirol o ro mân neu i weld heidiau o adar môr, gallech ymweld â:
Gwarchodfa Natur Cemlyn, ger Cemaes, Ynys Môn.
For suggestions of studies and activities for schools based at Cemlyn Nature Reserve, you can download
Cymraeg(pdf) - (dogfen word) - Saesneg(pdf) - (dogfen word)
mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa

A fyddech chi'n hoffi mynd am dro i un o'n gwarchodfeydd natur eraill?
Angen gwybodaeth bellach? Taflenni ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o'r safleoedd.
A oes gennych ymholiad cysylltiedig â bywyd gwyllt?
Anfonwch e-bost atom i dderbyn gwybodaeth bellach neu ffoniwch 01248 351541.