Digwyddiadau a Gweithgareddau diweddarwyd Mawrth 2008
PROSIECTAU GORWELION GWYRDD ar Marford Quarry
Dydd Sadwrn 10 Mai, 10am tan 12pm a 2pm tan 4pm
Dewch yn Gompostiwr C?l!
Trychfilod bychan a ffwng i gyd yn ein helpu i ailgylchu. Allwch chi fod yn Gompostiwr C?l. Darganfyddwch fyd y domen gompost drwy gyfrwng hwyl a gemau a byddwch yn gompostiwr o fri.Dydd Sul 8 Mehefin 10am tan 12pm
O ‘rydym wrth ein bodda wrth y môr
Dathlwch Ddiwrnod Moroedd y Byd gyda ni yn Marffordd. Am 11am dewch i ymuno â’r dryslyd Athro Rainstorm a’i helpu o greu peiriant cylch d?r (efallai fydd hyn i wneud rhywbeth â beic). Mae arno angen eich help. Yna ymunwch ag ef mewn gweithgareddau cyfrwys a gemau yn cynnwys y we fyd eang ar y mur.Dydd Sadwrn 28 Mehefin 11am tan 1pm
Helfa Trychfilod Fwyaf Gyntaf Marffordd
Fel rhan o wythnos Genedlaethol Trychfilod rydym yn cael ein Helfa Trychfilod Blynyddol gyntaf. Ymunwch a ni i chwilio am bob mathau o drychfilod bychan a mynd â chartrefi a blychau (cartrefi trychfilod) a modelau adref.27 Gorffennaf 10am tan 4pm
Hwyl Heulog
Mae’r ddaear wedi amgylchu’r haul unwaith er i Brosiect Gorwelion Gwyrdd ddechrau felly i ddathlu ‘rydym am gael diwrnod o Hwyl Heulog a Gemau. Dewch am hwyl efo’r haul ac os ydych yn dymuno mynd â’r ynni “Solar” ym mhellach yn y gymuned neu gartref fe fydd y Ganolfan Cynghori Gorwelion Gwyrdd yno.Cangen Ynys Môn
Dydd Gwener 11 Ebrill 7.30pm
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gangen
gyda sgwrs yn dilyn –Sut i ddenu bywyd gwyllt i’n gerddi – Cyngor ar sut i wneud ein gerddi yn fwy ffafriol i fywyd gwyllt hefo Anna Williams, Swyddog Cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri yn Neuadd Eglwys St Andrew, BenllechDydd Sul 20 Ebrill 4pm – 6pm
Taith ar y traeth
yn Rhosneigr. Darganfod creaduriaid sydd i’w gweld ar y traeth ar drai’r llanw hefo Tom Clifton. Bydd y daith yn dilyn y llanw i lawr y traeth fel mae’r llanw’n cilio (trai 6pm). Cyfarfod ym maes parcio Rhosneigr SH319 730. “Wellies” yn orfodol!Dydd Sul 4 Mai 11am – 4pm
Diwrnod agored yn Ffrwd Onnen, Llangristiolus
drwy gwrteisi Joe a Cathy Mullen. Cyfle arall i ymweld â thyddyn hanesyddol diddorol yn cael ei redeg er lles bywyd gwyllt. Coetir hen a newydd, chwarel calchfaen wedi ei chau, odyn galch, ffrwd, llyn a gardd sy’n esiampl o wahanol fathau o gynefinoedd bywyd gwyllt. Digon o le parcio (SH442 732). Angen esgidiau addas. Mynediad £3 (£1 i blant) yn cynnwys te/coffi a theisennau. Stondin planhigion – yr elw at YNGC. Dim c?n.Dydd Sul 18 Mai 2 – 4pm
Taith gerdded
Yng Nghoed Plas Llugwy yn cael ei harwain gan Charles Aron. Cyfle prin i ymweld â’r coetir collddail preifat yma i fwynhau can yr adar a fflora coetir yn cynnwys y cwlwm cariad prin. Cyfarfod ar feudy’r ffarm (SH498 859) Dim C?n.
MAE’R TRI DIGWYDDIAD CANLYNOL YN CAEL EU RHEDEG FEL RHAN O W?L GERDDED MÔN.
Ychwaneg o wybodaeth e.e. dyddiadau, amseroedd a threfniadau’r tocynnau i’w cael yn rhaglen yr W?l Gerdded (Mai 24 – Mai 28) ar gael gan Menter Môn, neu cysylltwch â Penny yn nes i’r amser.Bywyd Gwyllt Rhyfeddol Ynys Môn
Cipolwg ar feioamrywiaeth cyfoethog yr ynys gan Ian Wright. Bwffe wedyn.Gors Goch GNG
ymchwilio hanes, tirlun a beioamrywiaeth y safle tir gwlyb genedlaethol bwysig yma. Arweinydd: Chris Wynne. Taith gron o 4 – 5 milltir. Dewch â bwyd.Mynd am dro o gwmpas Gwarchodfa Mariandyrys ar fin nos
Glaswelltir, calchfaen a rhostir gyda llawer math o fywyd gwyllt a golygfeydd syfrdanol. Arweinydd: Ecolegydd o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Taith gron fer, cymedrol serth mewn mannau.Dydd Mercher 11 Mehefin 7.00pm.
Cyttir Tywyn, Trewan (yn dathlu “Wythnos Bywyd Gwyllt” ac “Wythnos Beioamrywiaeth”)
Ymchwilio’n hamddenol y rhostir eang yn Cytir Tywyn Trewan, yn cael ei harwain gan Geoff Radford. Cyfarfod yn y maes parcio (SH331 757) ger cornel ogledd dwyrain y comin
Dydd Sul 22 Mehefin 2 – 5pm
Te Mefus yn Cerrig yr Adar, Rhoscolyn
Drwy gwrteisi y teulu Wright.Mae’r digwyddiad poblogaidd yma y rhoi cyfle i fwynhau cerdded ar hyd y penrhyn syfrdanol a gweld yr ardd a’r llyn cyn ymlacio ar y lawnt i fwyta’r mefus a’r hufen, teisennau a choffi. Stondin - Moes a Phryn. Digon o le parcio SH278 756.Mynediad £4 (£2.50 i blant) yr elw at YNGC..
Dydd Sul 6 Gorffennaf 10.30am ymlaen.
Gweision Neidr a Mursennod
yng Nghorsydd Malltraeth Gwarchodfa RSPB. Cyfle i chwilio am weision neidr a mursennod ar y warchodfa a llawer mwy. Arweinydd: Allan Brandon, cofiadur odonata Gogledd Cymru a Ian Hawkins warden RSPB. Cyfarfod ym maes parcio Tai’r –gors – troi oddi ar yr hen A5 wrth arwydd cyfyngiad cyflymder i’r gorllewin o Bentre Berw (SH463 726). Dewch â bwyd. Dim C?nDydd Llun 4 Awst 5pm
Picnic efo Llamhidydd
gydnabod yr Wythnos Forol. Digwyddiad i wylio’r môr yn hamddenol gyda phicnic yn Nhrwyn Eilian – un o’r mannau gorau i wylio llamidyddion a adar y môr gyda help i’w hadnabod gan Nia Haf Jones – Swyddog Addysg gyda Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru.yn ôl i frig y dudalen
Cangen Arfon
Dydd Sadwrn 5 Ebrill 11.30am
CCB y Gangen
yn ystafell y Gymuned uwch ben Caffi’r Hen Felin, Abergwyngregyn (SH658 726) ac yna sgwrs ar Bartneriaeth Aber gan Alan Pritchard, Parc Cenedlaethol Eryri. Cyfle i gael cinio yn y caffi ac yna daith drwy Ddyffryn Aber i ddilyn. Parcio yn SH657 728.Dydd Sadwrn 26 Ebrill 6.30am a 8.30am.
Taith i glywed adar
yn Nant y Coed, Llanfairfechan (SH695 740) gyda brecwast i ddilyn yn Fron Wen. Arweinwyr: Geoff Gibbs a David Hewett. Mae angen archebu ymlaen llaw – ffoniwch Kate.
Dydd Mawrth 27 Mai 6.30pm – 8.30pm.
Ymweliad â Fferm Tyddyn Isaf, Tal-y-Bont
(SH614 696). Taith yn cael ei harwain gan Andrew a Hilary Kehoe. Dewch i weld sut mae bywyd gwyllt yn cael ei gefnogi a’i hybu ar y fferm yma drwy gymorth Tir Gofal. Gwisgwch esgidiau addas – ambell i fan serth!Dydd Sadwrn, Mehefin 7, 10.30am – 2.30pm
Garddio Bywyd Gwyllt
yn Fron Wen, Valley Road, Llanfairfechan (SH690 742). Ymweliad â gardd wedi ennill gwobr “Gardd Bywyd Gwyllt”. Dewch a chwestiynau a chyfarfod rhai brwdfrydig eraill a chael mwy o wybodaeth. Bwyd ac arwerthiant planhigion. Ffoniwch Kate am gyfarwyddid.Dydd Sadwrn 14 Mehefin 10am
Chwilio am Brith y Gors
Yng Nghors-y-Wlad a Chaeau Tan-y-Bwlch ger Clynnog. Arweinydd Geoff Gibbs ac eraill o Gadwraeth Gloÿnnod Byw. Cyfarfod o flaen Gwesty Beuno, Clynnog SH415 497. Dewch â “Wellies”. Tir anwastad. Bore’n unig.Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 12pm
Taith drwy warchodfeydd Bywyd Gwyllt Gogledd Dwyrain Cymru.
Arweinwyr lleol a Geoff Gibbs. Taith yn cynnwys Y Graig, Y Ddôl Uchaf ac Aberduna. Ychwaneg o fanylion a siawns i logi set mewn bws-mini yng Nghyfarfod Blynyddol y Gangen (Ebrill 5ed)
Dydd Sadwrn 13 Medi 10am
Gwylio adar yn Aberogwen (Spinnies).
Ymuno â arweinwyr lleol ar ben llanw i gael golwg agos ar Fywyd Gwyllt yr Hydref. Cyfarfod ym maes parcio’r traeth, SH615 723. Bore’n unig.yn ôl i frig y dudalen
Cangen Dyffryn Conwy
Cyfarfodydd dan do
Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Eglwys Dewi Sant, Bae Penrhyn am 7.30pm11 Ebrill
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gangen
Sleidiau’r aelodau ac eitemau arall o ddiddordeb. (Ymddangoswch a Dywedwch i oedolion!)Cyfarfodydd Allanol
Mae’n bwysig wisgo esgidiau a dillad addas ac mae rhaid cymeryd pob gofal ar y teithiau.Mawrth 25, Ebrill 8 a 22, Mai 6 a 20, Mehefin 3 a 17, Gorffennaf 15 a 29, Awst 12 a 26.
Teithiau Natur Anffurfiol
Bob yn ail ddydd Mawrth yn cychwyn o’r maes parcio cyhoeddus ger y Feddygfa, Bae Penrhyn. SH817 814 am 1.45pm. Teithiau lleol, hawdd eu cerdded ond yn aml ar draws gwlad.
Teithiau’r Haf
Dydd Mawrth 13 Mai 10am
Gwarchodfa Natur Aberogwen (Spinnies).
I edrych ar adar y glannau a hwyrach glas y dorlan. Cyfarfod ym maes parcio Aberogwen SH615 724. Arweinydd: Robin Fisher.Dydd Mawrth 10 Mehefin 10.30am
Gwarchodfa Natur Chwarel Marffordd
Cyfarfod yn y warchodfa SJ357 560. Dewch â bwyd. Ychwaneg o fanylion ym mhellach ymlaen.Dydd Mawrth 24 Mehefin 10.30am
Adar y traethau a phlanhigion y tywyn (tegeirian y wenynen) a gloÿnnod byw.
Talacre (Y Parlwr Du). Cyfarfod yn y maes parcio SJ125 848, dewch â bwyd. Arweinydd: Geoff Battershall.Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 10.30am
Cwningar Niwbwrch.
Planhigion a gloÿnnod byw y twyni a’r morfa heli. Cyfarfod ym maes parcio Llyn Rhos Ddu SH426 647. Dewch â bwyd. Arweinydd: Geoff Battershall.Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 10.30am
Gweilch ym Mhont Croesor.
I ddilyn Corsydd Gwarchodfa Natur Glaslyn os yn bosibl. Planhigion tir gwlyb yn cynnwys tegeirian gors y gorllewin. Gwisgwch “wellies”. Cyfarfod ym Mhont Croesor SH593 414 efo bwyd. Parcio i lawr y lôn fach i Benrhyndeudraeth SH592 385. Arweinydd: Geoff BatershallDydd Mawrth, Awst 5, 10.30am
Creigiau Eyarth
Gwarchodfa Cadwraeth Gloÿnnod Byw. Manylion i’w dilyn eto.yn ôl i frig y dudalen
Cangen Sir Ddinbych
Gwanwyn – Haf 2008
Cyfarfodydd dan do yn y Salisbury Arms, Tremeirchion, ger Llanelwy – 7.30 pm, Mynediad £1Dydd Mawrth 15 Ebrill
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gangen.
Cyflwyniad gan Andrew Hughes o Gymdeithas Genedlaethol y Ciperiaid yn dilyn.Dydd Sadwrn 17 Mai 2pm
Creigiau Eyarth ger Rhuthun
Cyfarfod ar y cyd gyda Gr?p Cadwriaethol Gloÿnnod Byw Gogledd Cymru. Cinio yn y White Horse, Llanfair D C a thaith flodau a gloÿnnod ym Mhont Eyarth (SJ127 553) i ddilyn am (3cilomedr i’r de o Ruthun rhwng Pwll-glas a Llanfair D C). Gallt serth a thir creigiog. Mwy o wybodaeth ar www.northwalesbutterflies.org.uk.Dydd Sul, Mehefin 8
Taith Bywyd Gwyllt;
Tafarn-y-Gelyn i Aberduna (Maeshafn) ac yn ôl. Cyfarfod arbennig i’r teulu, i bob oedran a diddordeb bywyd gwyllt, wedi ei threfnu gan Gwasanaethau Cefn Gwlad, Sir Ddinbych. Croesawn gymorth gyda adnabod adar, planhigion ac ati. Ychwaneg o fanylion o 01352 810614 (dydd) neu 01352 810586 (penwythnos) neu www.denbighshire.gov.uk a dilynwch y cyswllt i Wasanaethau Cefn Gwlad.Dydd Sadwrn 14 Mehefin 2pm
Ddôl Uchaf a Llyn Ysgeifiog
(oddi ar ffordd yr A541 Wyddgrug i Ddinbych). Cyfarfod yng Nghanolfan Dehongli Y Ddôl (SJ143 713). Cynefinoedd coetir a glannau gwlyb.Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2pm
Traeth graean Pensarn
(Planhigion AoDGA) SH943 787. Cyfarfod yn y maes parcio i’r gorllewin (tuag at y Gogarth) o gaffi’r traeth. Creswch y bont rheilffordd ger y stesion yn Pensarn. Trowch i’r chwith a gyrrwch ryw 200 llath i’r maes parcio yn mhen gorllewinol y prom. (Peidiwch â pharcio yn y maes parcio cyntaf ar y graean. Taith gerdded hawdd. Arweinydd Jean GreenDydd Sul, Awst 24 12 -4pm
Diwrnod Hwyl y Plant
Pen y Graig Fach, Tremeirchion, SJ089 721. Dewch â bwyd, syniadau garddio bywyd gwyllt a phethau o ddiddordeb o’ch gardd. Taith i ben Y Graig os yn dewis. Cystadlaethau a chwis. Digon o le parcio. Rhaid cael oedolyn efo plant dan 8 oed. Mwy o fanylion gan Roger a Chris 01745 710286yn ôl i frig y dudalen
Digwyddiad Sir y Fflint
Dydd Sadwrn 26 Ebrill 10am i 12pm
Crwydro’r Coed
yng Ngwarchodfa Natur Coed y Felin, Hendre ger Rhydymwyn - Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Dewch i weled a phrofi sioe ryfeddol o flodau gwanwyn y goedwig ac adar yn nythu. Bydd y goedwig yn llawn o glychau’r gog a gobeithio y gwelwch y gwybedog brith yn nythu, newydd gyrraedd o Ogledd Affrig i fridio yma dros yr haf. Gwisgwch esgidiau a dillad addas., cyfarfod yn y maes parcio sydd ar ôl y tro cyntaf i’r de oddi ar y A541 wrth ddod i Hendre o’r Wyddgrug.Cangen Meirionnydd
Dydd Sadwrn 26 Ebril 2pm
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gangen
Sgwrs ar y pathew gan Jack Grasse gyda the i ddilyn. Llyfrgell Rydd Dolgellau.Dydd Mawrth 3 Mehefin 3 7pm
Taith flodau yn Tir Stent
yn cael ei harwain gan Jack Grasse yn Tabor, Dolgellau. Tir gwlyb yn debygol. SH753 173.Dydd Gwener 11 Gorffennaf 7pm
Nid Adar yn Unig
Taith gyda gwirfoddolwyr yr RSPB yng Nghoed Garth Gell. Cyfarfod yn y Fiddlers Elbow. A496 Dolgellau i Bontddu (SH688 192).Dydd Gwener 1 Awst 2pm
Taith traeth
Taith ar hyd y traeth ar drai yn cael ei harwain gan Rees Jones. Cyfarfod yn stesion Tonfannau, SH563 039.Unrhyw anhawster i ddod o hyd i’r safleoedd, ffoniwch 07812 659593 ar y diwrnod. Croeso i aelodau ac eraill.
yn ôl i frig y dudalen
Cangen Wrecsam
Dydd Sul 11 Mai 2pm
Taith Cronfa dd?r Pen y Cae.
Cyfarfod yn SJ274 453 ychydig heibio’r Eglwys bellaf. Arweinydd: Tony Jackson (Warden).Mwynhewch yr adar, blodau a.y.y.b. ar ein cronfeydd d?r uchel lleol. C?n ar dennyn os gwelwch yn dda.
Dydd Sul 15 Mehefin 2pm
Dwy Daith - Middle Sontley Farm ac wedyn Hafod Bank.
Cyfarfod yn y ffarm am yn SJ323 467. Taith i weld adar, gloÿnnod byw a blodau o gwmpas Pyllau Sontley. Arweinydd: Neville Roberts. Taith ar Hafod Bank yn dilyn am 3 o gloch yn SJ313 467. Gweled y gwarth atgyweirio a’r bywyd gwyllt a’r ail-dyfiant ar y tip glo. Arweinydd: Mervyn Rogers.Dydd Sul 13 Gorffennaf 2pm
Taith yn Warchodfa Press Heath.
(Cyfarfod ar y cyd â Changen Cadwraeth Gloÿnnod Byw Gogledd Cymru). Cyfarfod am yn SJ557 363 (Troi a pharcio gyferbyn a’r gyffordd i Steel Heath) ar yr A49 ychydig i’r de o’r cylchdro lle mae’r A49 a’r A41 yn cyfarfod. Mae’r Warchodfa yn cael ei hadnewyddu yn rhostir er lles i lawer math o fywyd gwyllt yn cynnwys y glas serennog. Arweinydd: Stephen Lewis (Swyddog Press Heath)Dydd Sul 10 Awst 2pm
Taith yn Hem House Farm, Parkside.
Cyfarfod yn SJ387 556. Digon o le parcio. C?n ar dennyn os gwelwch yn dda. Gweled sut mae ffarmio a bywyd gwyllt yn medru cydfyw ar ffarm TIR GOFAL ar lan afon. Gwahanol adar, blodau ac anifeiliaid di-asgwrn cefn. Arweinydd: Clyde Parker (Perchennog)Dydd Sul 2pm Medi 21
Taith ar Ddreif yr Arglwyddes Bagot, Rhewl.
Cyfarfod yn SJ105 603. (o Ruthun cymerwch y tro cyntaf i’r chwith dros y bont yn Rhewl parcio ar y chwith) Coetir, taith ar hyd yr afon Clywedog i weld blodau anghyffredin, rhedyn ac adar a.y.y.b. Arweinydd: Peter Williams.Dydd Sul Hydref 12 11am
Helfa Ffwng.
Cyfarfod yn Pen y Ffrith yn SJ174 545.Dewch a bwyd a bocs i’r ffwng. Chwilio am Ffwng a.y.y.b. Te a Choffi ar gael am bris.
Arweinydd: Keith Davies (Cipar) Bydd yna gyfle i enwi ac arddangos ffwng. Dewch ac esiamplau eraill o ffwng. Cyfarfod ar y cyd â Changen Dinbych o’r Ymddiriedolaeth (gweler ei manylion hwythau hefyd). Croeso i bawb a gobeithio y mwynhewch y digwyddiadau.
yn ôl i frig y dudalen
Digwyddiadau'r Canghennau Lleol
- Cangen Ynys Môn
- Cangen Arfon
- Cangen Dyffryn Conwy
- Cangen Sir Ddinbych
- Cangen Meirionnydd
- Cangen Wrecsam