Mae Prosiect Ysgyfarnogod Gogledd Cymru'n weithredol ers mis Chwefror 2005.
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys pob un sir yng Ngogledd Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Fe allech chi gymryd rhan yn yr Arolwg ar yr Ysgyfarnog

Dysgwch sut i reoli eich tir er budd ysgyfarnogod ac er lles byd natur yn gyffredinol
Credir fod yr ysgyfarnog wedi cael ei chyflwyno i Brydain gan y Rhufeiniaid ac er bod y creadur yma wedi aros ar ein tir am gyfnod ychydig yn hirach na'r byddinoedd buddugoliaethaus hynny, mae wedi gorfod ymladd sawl brwydr ei hun hefyd.
Ers yr Ail Ryfel Byd, credir fod nifer yr ysgyfarnogod wedi gostwng oddeutu 75%. Credir fod y niferoedd ar hyn o bryd rhwng 817,500 a 1,250,000. Mae'r gostyngiad drastig hwn yn nifer yr ysgyfarnogod yn peri pryder y gellir ei ddeall ac wedi peri i'r ysgyfarnog gael ei hystyried ymhlith yr anifeiliaid cyntaf yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) y DG. Mae'r CGB yn annog ymdrechion i gynyddu poblogaeth bresennol yr ysgyfarnog i ryw ddwy filiwn erbyn 2010.
Mae'r Ysgyfarnog yn rhan o'n holl Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) ledled Gogledd Cymru. Gweithredir y CGBLl hyn gan yr Awdurdodau Lleol amrywiol a chan sefydliadau eraill, fel Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Ers gwanwyn 2007, rydym wedi cwblhau astudiaethau dosbarthiad o'r ysgyfarnog yn siroedd Ynys Môn, Conwy a Gwynedd. Ar hyn o bryd, rydym yn cwblhau prosiectau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae'r tudalennau a ganlyn yn cynnwys gwybodaeth am y cyswllt rhwng ysgyfarnogod a y mamaliaid arbennig hyn a'u mytholeg, a manylion yn ymwneud ag ecoleg y mamaliaid arbennig hyn a'u dosbarthiad ledled Gogledd Cymru.
Cefnogir Prosiect Ysgyfarnogod Gogledd Cymru gan:








