llun o ysgyfarnog
Ledled Prydain mae nifer yr ysgyfarnog yn dirywio.
Mae eu dyfodol yn dibynnu ar y modd y mae'r tir yn cael ei reoli.
Gyda'ch cymorth, gallwn ganfod sut maent yn gwneud gan weithio gyda pherchnogion tir i'w gwarchod yn y dyfodol.
Cymharwch y lluniau hyn (yr ysgyfarnog uchod a'r gwningen isod) ac os ydych yn sicr eich bod wedi gweld ysgyfarnog, gadewch i ni wybod.
Gallwch lwytho'r ffurflen arolygu ysgyfarnogod oddi yma.
Dychwelwch y ffurflen i'n swyddfa ym Mangor os gwelwch yn dda.

Diolch i chi am eich cymorth a'ch cefnogaeth.

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Yr Arolwg ar Ysgyfarnogod


Fe hoffem glywed gennych os ydych wedi gweld ysgyfarnog