Cymryd Rhan
Cofiwch am Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys.
Mae rhodd yn eich ewyllys yn un o'r ffyrdd mwyaf gwerthfawr o helpu i achub bywyd gwyllt Gogledd Cymru. Gadewch rodd i fywyd gwyllt.
Dychmygwch ddyfodol heb fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru.
Dyfodol heb weld llygoden ddŵr yn cnoi brwyn ar lan afon.
Dyfodol heb arogl cryf clychau'r glas yn y coed yn y gwanwyn.
Dyfodol heb sŵn oeraidd yr awel gyda'r nos yn chwythu drwy ddail coetir hynafol.
Dychmygwch pe na bai plant y dyfodol yn cael cyfle i flasu'r profiadau hyn.
Dychmygwch pe bai tapestri cyfoethog Gogledd Cymru o fywyd gwyllt yn cael llonydd i ddirywio a diflannu.

Pwy all ddychmygu'r fath beth. Ond beth allwch chi ei wneud?
Cofiwch am Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys.Gyda'ch help chi gallwn sicrhau bod Gogledd Cymru'n parhau'n gyfoethog mewn bywyd gwyllt.
Hebddoch chi, 'allwn ni'm gwneud dim.
Rhodd yn eich ewyllys yw un o'r ffyrdd mwyaf gwerthfawr o helpu i achub bywyd gwyllt Gogledd Cymru.
Cysylltwch â ni am fanylion ynghylch sut i adael rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.