Cymryd Rhan
Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Mae mwy na 5000 o bobl yng Ngogledd Cymru'n cefnogi Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru fel aelodau.
Mae 650 hectar yr Ymddiriedolaeth o warchodfeydd natur yn brawf parhaol o gefnogaeth ein haelodau i fywyd gwyllt Gogledd Cymru.Ymunwch â ni a theimlwch yn hyderus eich bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gadwraeth bywyd gwyllt mewn rhan arbennig iawn o'r byd.
Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru HEDDIW ac, am eich cefnogaeth werthfawr, byddwch yn derbyn:
- 'Natural World', cylchgrawn yr Ymddiriedolaethau Natur, deirgwaith y flwyddyn
- 'Welsh Wildlife', sef cylchgrawn Ymddiriedolaethau Natur Cymru, deirgwaith y flwyddyn am ddim
- 'Natur', ein cylchlythyr lleol, deirgwaith y flwyddyn
- Pecyn i aelodau o daflenni'r gwarchodfeydd natur
- Catalog o nwyddau ac eitemau tÿ ac awyr agored gyda thema bywyd gwyllt
- Rhaglen lawn o sgyrsiau, teithiau cerdded tywys a digwyddiadau cymdeithasol lleol i'w mwynhau
- Fel aelod o deulu, copïau rheolaidd o Watchword, y cylchgrawn bywyd gwyllt i blant
- Gwybodaeth am glybiau Gwylio Bywyd Gwyllt lleol ar gyfer aelodau iau rhwng wyth a phedair ar ddeg oed
- Amrywiaeth o brosiectau cadwraeth bywyd gwyllt y gallwch gymryd rhan ynddynt
- Cyfleoedd i wirfoddoli eich amser a'ch sgiliau i'n helpu ni i godi arian, gweinyddu a gweithio yn y gwarchodfeydd natur.
Y Mathau o Aelodaeth
- Unigol Lleiafswm o £2 y mis * £6 yn chwarterol * £24 y flwyddyn
- Ar y Cyd Lleiafswm - o £2.50 y mis * £7.50 yn chwarterol £30 y flwyddyn
- Teulu - o £3 y mis * £9 yn chwarterol £36 y flwyddyn
- Ar y Cyd - (dros 65 ) - o £2 y mis * £6 yn chwarterol £24 y flwyddyn
- Oes (sengl) - Un taliad sengl sy'n lleiafswm o £600
- Oes (ar y cyd) - Un taliad sengl sy'n lleiafswm o £750

