NEWYDDION

CYMRYD RHAN: Cefnogwch Apêl 'Cefnogi Cors' os gwelwch yn dda

Darganfyddwch fwy a helpwch ni fanteisio ar y cyfle unigryw >>

Adeiladu Tŷ Newydd i'r Dyfrgi yn Nôl Uchaf

Mis Ionawr treuliodd grŵp

o wirfoddolwyr ddiwrnod cyfan yn adeiladu gwâl newydd i'r dyfrgwn yng Ngwarchodfa Natur Y Ddôl Uchaf. Adeiladwyd y wâl gyda ffordd i mewn ac allan sydd yn darparu'r dyfrgi benywaidd gyda ffordd i ddianc os fydd angen. Mae hyn yn gwneud hi deimlo ddigon diogel i godi ei chenau. Mae'r mynedfeydd a'r llwybrau, ar yr hen wâl,

dal yn agored a gobeithiwn y bydd yna arwydd o ddefnydd, cyn bo hir, o'r wâl newydd. Y tu mewn mae yna ardal dywyll, sydd ei angen i'r dyfrgi benywaidd genhedlu a chodi ei chenau. Cafwyd mwynhad mawr ar y diwrnod (diolch i bawb am y gwaith caled).

Os hoffech wirfoddoli i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yna cysylltwch â Resi Tomat ar 01248 351541.

Gweithio gydag Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru


Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru wedi ymuno â'i gilydd i greu un llais ar gyfer amgylchedd morol anhygoel Gogledd Cymru.
Sefydlwyd Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru ym Mangor yn Hydref 2001, gyda'r amcan o greu mwy o ymwybyddiaeth a hybu materion cadwraeth forol ledled y gymuned leol a chenedlaethol. Ers hynny, mae YFGC wedi ymwneud â nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau morol, yn arbennig Cynllun Gweithredu Llamhidyddion yr Harbwr, y Canolfannau ar gyfer Ymwybyddiaeth ac Addysg Forol a'r Cynllun Ymestynnol ar gyfer Addysg Forol.

Rhoddir pwyslais arbennig ar addysgu pobl ieuainc yn y gobaith y byddant yn tyfu i fyny gan barchu a charu'r amgylchedd morol. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Cynllun Ymestynnol Addysg Forol hynod lwyddiannus YFGC wedi cyrraedd at fwy na 2000 o ddisgyblion cynradd ledled Gogledd Cymru.



Mae mwyafrif gwaith YFGC yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ymroddedig. Ers ei sefydlu, mae gwirfoddolwyr YFGC wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o warchod llamhidyddion yr harbwr yn nyfroedd Cymru ar bob lefel, o sefydlu a gweithredu ei Gynllun Bioamrywiaeth Lleol yn nyfroedd Ynys Môn i greu mwy o ymwybyddiaeth mewn ysgolion lleol. Dros y blynyddoedd, mae'r grŵp wedi datblygu o fod yn grŵp gweithredu yn gweithio o ystafell sbâr yn nhŷ un o'r aelodau a'i sefydlodd i fod yn sefydliad swyddogol yn gweithio ledled Gogledd Cymru yn annibynnol ac mewn partneriaeth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae YNGC ac YFGC wedi bod yn cydweithio'n agos ar brosiectau ymwybyddiaeth a chadwraeth ac mae'r bartneriaeth newydd hon yn newyddion cyffrous i ymdrechion cadwraeth forol yma yng Ngogledd Cymru.

Bydd Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru'n grŵp morol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ei hun, yn rhannu arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad er mwyn sicrhau cefnogaeth gryfach i warchod bywyd gwyllt y môr yng Ngogledd Cymru.

Am wybodaeth bellach ynghylch Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru, cysylltwch â:
Nia Jones,
376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YE
Ebost: nia@saveourseas.co.uk
Ffôn: (01248) 355030

yn öl i ddechrau'r dudalen

Prosiect Gerddi Bywyd Gwyllt Eryri
gyda'r Ymddiriedolaeth Natur

Wedi tair blynedd lwyddiannus ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Prosiect Garddio Bywyd Gwyllt Eryri wedi symud i swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur ym Mangor yn awr. Drwy symud, gobeithir y bydd y prosiect yn gallu dal ati i ddenu cyllid a meithrin cysylltiadau cryfach gyda Phrosiect 'Gwyllt Am Erddi' yr Ymddiriedolaeth Natur.

Mae Anna Williams, Swyddog Prosiect Garddio Bywyd Gwyllt Eryri, yn gyfarwydd iawn â'r Ymddiriedolaeth gan ei bod hefyd yn arweinydd Grŵp Gwylio Waunfawr. Meddai am symud, "Fel rwyf wedi gweld, ceir llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd mewn rhoi help llaw i fywyd gwyllt. A ledled y DG, mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur lawer o brosiectau garddio bywyd gwyllt cyffrous iawn, yn darparu cymorth a syniadau i bobl. Rwy'n gobeithio gallu defnyddio'r profiad hwn i ddatblygu fy ngwaith ac adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd diwethaf."
Roedd y gystadleuaeth Garddio Bywyd Gwyllt eleni yr un mor llwyddiannus ag erioed, gyda mwy o ysgolion yn cymryd rhan a mwy o Ynys Môn wedi cystadlu. Roedd safon y gerddi'n anhygoel ac roedd y beirniaid yn falch iawn o weld angerdd a gwybodaeth y garddwyr. Cysylltwch ag Anna Williams am wybodaeth bellach am y gystadleuaeth.
Yn ddiweddar, mae'r prosiect 'Gwyllt Am Erddi' wedi diweddaru ei safle. Beth am fynd am dro iddo pan fydd gennych amser www.wildaboutgardens.org? Mae'r wefan yn edrych yn llawer glanach ac yn ffres, a cheir nifer o bobl yn cyfrannu ati ac yn ysgrifennu am eu gerddi hwy eu hunain, sut maent yn garddio a'r bywyd gwyllt sydd yn eu gerddi.
Mae gan Brosiect Garddio Bywyd Gwyllt Eryri ei wefan ei hun hefyd, a gallwch fynd iddi yn www.gardenforwildlife.co.uk.Bydd modd i chi gael hyd i'r hyn yr ydym yn ei wneud yn lleol a gweld ein pecyn gwybodaeth.

Gellir cysylltu ag Anna Williams ar AnnaWilliams@wildlifetrustswales.org
yn öl i ddechrau'r dudalen

Phoenix comes to the Rescue

Diolch i Brosiect Phoenix, a sefydlwyd fis Tachwedd 2004, mae ffermdy, adeiladau allanol a bwthyn yng ngwarchodfa natur Cors Goch ar Ynys Môn yn cael eu hadnewyddu i wella cadwraeth bywyd gwyllt y safle.

Mae Prosiect Phoenix yn brosiect tair blynedd sy'n cyllido gwaith amrywiol tu hwnt ar 18 o warchodfeydd natur a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda 79 o warchodfeydd pellach yn perthyn i bartneriaid eraill drwy gyfrwng ardal Amcan Un Cymru.


Mae'r gwaith yn cynnwys cael gwared ar blanhigion ymledol niweidiol fel canclwm Japan a helyg y môr; adfer ffiniau traddodiadol fel gwrychoedd a waliau cerrig; ymestyn a gwella llwybrau troed; creu cylchfeydd rhagod ar hyd dyfrffyrdd a gwella cyfleusterau i ymwelwyr er mwyn helpu pobl i fwynhau'r cysgod yma i fywyd gwyllt.
Ariennir Prosiect Phoenix yn rhannol gan gyllid Amcan Un o Ewrop (Blaenoriaeth 5 Mesur 7) drwy gyfrwng Llywodraeth Cynulliad Cymru ( £1.4 million), sy'n cael ei gyfateb gan gyllid partner ar ffurf arian ac ar ffurf arall.

Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y partneriaid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cadwraeth Glöynnod Byw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ac Ymddiriedolaeth De a Gorllewin Cymru, gyda CCGC yn gyfrifol am reoli'r prosiect yn gyffredinol.
Mae'r prosiectau'n gwarchod mwy na 4,000 hectar o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Cymru, tra'n creu neu'n diogelu swyddi lleol, cynyddu cyfleoedd i wirfoddoli yn y sector amgylcheddol a chreu mwy o ymwybyddiaeth o, a hygyrchedd, i rai o'r tirluniau a'r safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf yng Nghymru.

yn öl i ddechrau'r dudalen