Cymryd Rhan
Gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
A fyddech yn hoffi gwneud rhywbeth er lles eich bywyd gwyllt lleol?
A fyddech yn hoffi gweithio mewn tîm a dod i adnabod pobl newydd?
A fyddech yn hoffi gwella eich CV gyda phrofiad addas?
Mae gennym nifer o wirfoddolwyr brwd ac ymroddedig sy'n ymwneud â phob agwedd ar waith yr Ymddiriedolaeth a hebddynt, ni allem oroesi. Beth am ymuno â ni?
Gallwch helpu bywyd gwyllt mewn sawl ffordd
Gwaith ymarferol mewn gwarchodfeydd natur yng nghefn gwladHelpu i gynnal arolygon ar fywyd gwyllt
Monitro ceisiadau cynllunio
Gofalu am grwpiau Gwylio Bywyd Gwyllt i blant
Trefnu digwyddiadau neu helpu yn un o'n siopau
Cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu
Cynorthwyo gyda gweinyddu a rhedeg yr Ymddiriedolaeth Byd Natur
Pwy sy'n gwirfoddoli gyda ni?
Mae ein gwirfoddolwyr yn bob math o bobl yn dod o wahanol gefndiroedd, yn cynnwys myfyrwyr, pobl mewn gwaith, pobl wedi ymddeol, swyddogion proffesiynol a lleygwyr llwyr, pobl gydag anghenion arbennig, pobl hŷn a phlant.Rydym yn ceisio cael hyd i waith gwirfoddol sy'n addas i bawb sydd eisiau helpu.
Os hoffech wirfoddoli ac os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch gwirfoddoli, cysylltwch â Resi Tomat ar 01248 351541 neu e-bost: resitomat@wildlifetrustswales.org
Gwaith Ymarferol yn ein Gwarchodfeydd
Cynhelir dyddiau gwaith rheolaidd yn ein gwarchodfeydd natur, yn rheoli rhywogaethau a chynefinoedd ac yn sicrhau mynediad i ymwelwyr. Mae gennym dri phrif grŵp gwaith:Yn ein gwarchodfeydd yng Ngwynedd, Conwy a Sir Ddinbych - yn cyfarfod yn rheolaidd bob dydd Mercher. Cysylltwch â ni i gymryd rhan!
Yn ein gwarchodfeydd ar Ynys Môn ac yn ardal Bangor - cysylltwch â ni am galendr o ddigwyddiadau!
Yn ein gwarchodfeydd yn Sir y Fflint ac ardal Wrecsam - cysylltwch â ni am restr o grwpiau gwaith ar benwythnosau!
Gwaith Arolygu / Monitro
Ceir mwy o gyfleoedd nag erioed i ganfod gwybodaeth am fywyd gwyllt lleol.Cymerwch ran i berffeithio eich sgiliau adnabod glöynnod byw neu blanhigion, i fapio bywyd gwyllt lleol neu i gael hyd i lygod dŵr.
Boed yn arbenigwyr ar fywyd gwyllt ai peidio, rydym yn chwilio am bobl i rannu eu gwybodaeth neu bobl sydd eisiau dysgu sgiliau newydd, a chael gweld yn union pa blanhigion ac anifeiliaid sy'n byw yn y rhanbarth.
Os hoffech gymryd rhan yn y gwaith arolygu, cysylltwch â Resi Tomat os gwelwch yn dda.
Gwaith arall
Ar gyfer cyfleoedd gweinyddu, addysgol, gwerthiant a chodi arian, a phob cyfle arall i wirfoddoli, cysylltwch â Resi Tomat ar 01248 351541.Y Swyddi Gwirfoddoli Gwag Presennol
Rydym yn chwilio bob amser am wirfoddolwyr i lenwi swyddi penodol.Dim ond rhai o'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd yw'r canlynol.
Swyddfa Bangor
Derbynyddion Dros Dro / Cynorthwy-ydd Cylchgrawn / Cynorthwy-ydd Digwyddiadau / Swyddog Cyhoeddusrwydd Cynorthwyol / Cynorthwy-ydd Ffeilio / Cynorthwy-ydd GwerthiantSwyddfa Loggerheads
Cynorthwy-ydd Swyddfa / Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol / Arolygwyr Bywyd GwylltGwarchodfa Natur Cemlyn
Warden Morwenoliaid yr Haf. Am wybodaeth bellach, llwythwch daflen Wardeniaid Gwirfoddol Cemlyn dros yr haf.Siop Parc Gwledig Chwarel Breakwater, Caergybi
GwerthwrSiop Parc Gwledig y Gogarth, Llandudno
GwerthwrBwletin gwirfoddoli
Rydym yn anfon bwletin misol at ein gwirfoddolwyr i gyd drwy e-bost yn sôn am gyfleoedd gwirfoddoli presennol, yn amrywio o dasgau unigryw i swyddi gwirfoddol hirdymor. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, anfonwch e-bost at Resi Tomat.Yn gwirfoddoli eisoes?
Rydych yn gwybod eisoes pa mor bwysig yw eich ymdrech i waith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac felly beth am ein helpu ni i gofnodi'r holl gyfraniad gwirfoddol at waith yr Ymddiriedolaeth drwy lenwi amserlen y gwirfoddolwyr.Llwythwch Amserlen y Gwirfoddolwr (16k.pdf) o'r fan yma (unigol).